Capel anelog
Capel Anelog
Roedd safle diarffordd Capel Anelog yn siŵr o fod yn atynfa i’r hen seintiau gael addoli mewn heddwch.
Yma canfuwyd dwy garreg o bwys yn y 18fed ganrif. Beddfeini o’r 6ed ganrif i goffáu dau offeiriad Cristnogol ydynt. Mae arysgrifau ar y cerrig yn cyfeirio at ‘lawer o frodyr’ sy’n awgrymu mai o fynwent cymuned grefyddol y daethant. Roeddent wedi bod yn gorwedd yn nyffryn bâs yr afon Saint, wrth droed Mynydd Anelog. Mae’n debygol mai o’r cyfnod hwn y dyddia’r hen enw, Capel Verach.
Diogelwyd y cerrig ym mhlasty Cefnamwlch yn Nhudweiliog am flynyddoedd a chael eu gwarchod gan deulu Wynne-Finch, cyn cael eu gyrru i’w cartref presennol yn Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron. Yno maent heddiw, yr un mor gadarn ag oeddynt 1,600 o flynyddoedd yn ôl.
Gelwir y cerrig yn Maen Aswy (chwith) a Maen Deau (dde) a ddaw o’r Lladin.
Mae’r arysgrifau yn daclus a soffistigedig, ac mae’n debyg bod y gwŷr a naddodd y cerrig yn siarad Lladin yn rhugl, yn ogystal â’r Frythoneg, sef yr hen iaith Geltaidd a siaradwyd gan y Brythoniaid ym Mhrydain.
Tybed ydy'r arddull yn edrych yn gyfarwydd i chi? Dyma sydd wedi ysbrydoli ysgrifen unigryw Plas Carmel.